SL(5)351 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ("y GDCG"), fel y'i diwygiwyd, yn caniatáu i rai mân ddatblygiadau gael eu cynnal heb yr angen i gyflwyno cais cynllunio. Gelwir hyn yn "ddatblygiad a ganiateir".

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r GDCG trwy:

·         Ganiatáu gosod pwyntiau a standiau trydanol ar gyfer ailwefru cerbydau trydan;

·         Caniatáu gosod llinellau uwchben penodol;

·         Ymestyn hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas ag uchder a lled mastiau a osodir ar y ddaear ac yn ymestyn y cyfnod ar gyfer defnyddio tir ar gyfer cyfarpar cyfathrebiadau electronig symudol o chwe mis i 18 mis

·         Gwneud diwygiadau mewn perthynas ag adeiladu a gosod cyfarpar penodol ar gyfer gwasanaethau band eang llinell sefydlog ac o ran dodi cyfarpar yn lle cyfarpar arall.

·         Ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gosodiadau solar annomestig tra ei fod yn gwahardd gosod o fewn tri chilometr i berimedr maes awyr neu faes glanio.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2(vi) mewn perthynas â'r offeryn hwn – yr ymddengys fod y gwaith o'i ddrafftio'n ddiffygiol:

·         Ym mharagraff A.2(1)(a)(i) o Atodlen 1 i'r offeryn hwn, dylai'r cyfeiriad at adran 10(b) [ychwanegwyd pwyslais] o'r Atodlen i Ddeddf Goleuni Trydan (Cymalau) 1899 gyfeirio at baragraff 10(b) [ychwanegwyd pwyslais] o'r Atodlen i Ddeddf Goleuni Trydan (Cymalau) 1899.

·         Mae paragraff A.3(5) o Atodlen 2 i'r offeryn hwn yn cynnwys y geiriad "in receipt of the application under paragraph (4)". Fodd bynnag, y ddarpariaeth sy'n nodi bod rhaid i gais gael ei anfon at yr awdurdod lleol yw paragraff (3). Mae paragraff (4) yn rhagnodi'r hyn y mae'n rhaid iddo gyd-fynd â chais. Felly, y cyfeiriad cywir ym mharagraff A.3(5) fyddai at baragraff (3) yn hytrach nag at baragraff (4).

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r elfen craffu technegol o’r adroddiad drafft yn cyfeirio at ddau wall drafftio. Mae un o'r rhain yn cael ei dderbyn.

 

Pwynt 1 – Paragraff A.2(1)(a) o Atodlen 1

 

Nodir a derbynnir y pwynt adrodd hwn. Bydd y llywodraeth yn gofalu y caiff hyn ei gywiro drwy gyfrwng slip cywiro.

 

Pwynt 2 – Paragraff A.3(5)

 

Cafodd y croesgyfeiriad ym mharagraff A.3(5) ei ystyried yn ystod y broses ddrafftio. Gwnaed penderfyniad ymwybodol i gynnwys cyfeiriad at baragraff (4) yn hytrach na pharagraff (3). Y rheswm am hynny yw bod rhaid i'r cais sy'n dod i law gynnwys yr eitemau a restrir ym mharagraff (4).  Mae hyn yn gyson â pharagraff A.3(5) o Ran 24 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 fel y mae mewn grym ar hyn o bryd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

6 Mawrth 2019